Law (Accelerated JD Pathway), LLB (Anrh)

Ar gyfer graddedigion o brifysgolion yng Nghanada sydd heb radd yn y gyfraith

Myfyrwyr y gyfraith yn mwynhau darlith

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB yn y Gyfraith (Llwybr Carlam JD) yn radd ddwys yn y gyfraith, a addysgir dros ddwy flynedd, ac sydd wedi ei dylunio'n benodol ar gyfer graddedigion o brifysgolion yng Nghanada sydd heb radd yn y gyfraith.

Byddwch yn astudio modiwlau o ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys: Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Camweddau, Cyfraith Contractau, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr UE mewn Cyd-destun, a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.

Mae'r rhaglen yn cyfuno manwl gywirdeb academaidd â’r cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau cyfreithiol hanfodol, gan eich galluogi i symud ymlaen at gam nesaf hyfforddiant er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn Lloegr, Cymru ac yng Nghanada.

Mae'r radd yn ymgorffori'r pynciau cyfreithiol craidd a asesir gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, ac mae wedi'i hachredu gan Fwrdd Safonau'r Bar. Yn amodol ar lefel cyrhaeddiad gofynnol mewn modiwlau craidd, mae'r radd hefyd wedi'i hachredu gan Bwyllgor Achredu Cenedlaethol Canada (NCA). Mae’r modiwl Cyfraith Gyfansoddiadol Canada yn baratoad ardderchog ar gyfer arholiad yr NCA (mae rhagor o wybodaeth am ofynion achredu’r NCA ar gael ar wefan yr NCA).

Pam Law (Accelerated JD Pathway) yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, byddwch chi'n elwa o fod yn rhan o amgylchedd ymchwil ac addysgu bywiog ac amrywiol gyda myfyrwyr wrth ei wraidd.

Mae gan Abertawe enw da sefydledig sy'n cynyddu am addysgu'r gyfraith ac am ymchwil sy'n ymwneud â’r gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod eang o feysydd ymarfer. Mae’r Ysgol yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ei gweithgareddau.

O ganlyniad, mae'r Gyfraith yn Abertawe:

  • Ymysg y 125 o raglenni gorau o’i bath yn y byd (Tablau Prifysgolion y Byd The Times Higher Education fesul Pwnc 2025)
  • Ymysg y 150 o raglenni gorau o’i bath yn y byd (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025)

Eich Profiad Law (Accelerated JD Pathway)

Cyfleoedd Cyflogaeth Law (Accelerated JD Pathway)

Gall astudio gradd yn y gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw darparu sgiliau amryfal i chi er mwyn gwella eich rhagolygon fel graddedigion. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, sy'n cynnwys bod yn:

  • fargyfreithiwr, gwas sifil, darlithydd, gweithredwr cyfreithiol, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer stoc neu swyddog safonau masnach.

Modiwlau

Mae eich cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol sy'n ymdrin â meysydd craidd gradd yn y Gyfraith ar draws y ddwy flynedd.

Law (Accelerated JD Pathway), LLB (Hons)

OSZAR »