Cyfrifeg, BSc (Anrh)

Mae gradd BSc Cyfrifeg wedi ei hachredu gan dri chorff cyfrifeg proffesiynol

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs BSc mewn Cyfrifeg wedi'i ddylunio i'ch paratoi'n llawn am yrfa lwyddiannus mewn cyfrifyddiaeth.

Bydd sgiliau ymarferol, ynghyd ag addysgu arloesol, sy'n seiliedig ar ymchwil, yn rhoi'r wybodaeth fyd go iawn i chi i ddod yn raddedig gyda’r gallu i weithio mewn unrhyw rôl cyfrifyddu - o fewn unrhyw sefydliad, ar draws unrhyw sector.

Bydd ein rhaglen aml-achrededig yn rhoi maeth i chi ar statws Cyfrifydd Siartredig gyda chyrff achredu byd-eang - ACCA, ICAEW a CIMA – rhywbeth sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr a'ch rhagolygon graddedigion. 

Bydd ein detholiad helaeth o fodiwlau, sydd wedi'u cynllunio ochr yn ochr â diwydiant, yn rhoi cyfle i chi astudio popeth o Fuddsoddiadau a Chyfrifeg Rheoli i Reoli Arloesedd ac Economeg ar gyfer Cyfrifo a Chyllid.

Gallwch hyd yn oed astudio modiwl di-gredyd 'Cyfrifeg Gyfrifiadurol'– lle byddwch yn dysgu sut I sefydlu system gyfrifyddu gyfrifiadurol - gan ddefnyddio SAGE Line 50.

Pam Cyfrifeg yn Abertawe?

  • Wedi'i achredu gan gyrff achredu byd-eang - ACCA , ICAEW a CIMA. Dyma dechrau gwych i gyflawni statws Cyfrifydd Siartredig - astudiwch modiwlau sy'n rhoi eithriadau uniongyrchol i chi o arholiadau achredu allweddol. Mae hyn yn hynod ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol a'ch rhagolygon graddedigion
  • ACCA - Gallwch elwa o'r nifer uchaf posib o eithriadau o arholiadau'r ACCA am elfen gwybodaeth gymhwysol a sgiliau cymhwysol y cymhwyster proffesiynol ar ôl graddio
  • Modiwl Cyfrifo Cyfrifiadurol: wedi'i gynllunio i'ch arwain drwy’r broses gyfan o sefydlu system gyfrifyddu gyfrifiadurol gan ddefnyddio SAGE Line 50
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyfrifeg

Mae Cyfrifeg yn Abertawe yn radd hyblyg gyda chyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu i weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Bydd eich profiad ym maes Cyfrifyddu yn elwa ar ddetholiad eang o fodiwlau dewisol yn ystod blynyddoedd diweddarach eich astudiaethau, gan eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at eich nodau gyrfa.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel cyfrifydd mewn busnes neu sefydliad, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r myfyrwyr hynny sydd am ddod yn gyfrifwyr annibynnol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifeg

Ar ôl graddio mewn Cyfrifyddu o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai EY, Deloitte, KPMG neu PwC sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am swydd. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Cyfrifydd neu actiwari
  • Gweithiwr bancio proffesiynol
  • Archwilydd
  • Dadansoddwr cyllid

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, ystadegau, strategaeth a rheoli. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Cyfrifeg

Cyfrifeg gyda Blwyddyn Dramor

Cyfrifeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

OSZAR »