Rheoli Busnes (Marchnata), BSc (Anrh)

Enillwch ddealltwriaeth gadarn mewn egwyddorion rheolaeth busnes a marchnata

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn gweld eich hun yn cyflawni rôl allweddol mewn cwmni llwyddiannus? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i ddisgleirio drwy feddu ar y sgiliau creadigol sydd eu hangen i reoli busnes mewn modd pendant ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol?

Mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb brwd mewn marchnata, gwerthu ac ymddygiad defnyddwyr, ac mae'n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng cwsmeriaid a busnesau yn y farchnad fyd-eang.

Gallwch astudio pynciau marchnata arbenigol fel ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebiadau marchnata, ymchwil marchnata, metrigau marchnata a marchnata byd-eang.

Y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.

Yn ogystal ag arbenigo mewn marchnata, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn entrepreneuriaeth, ymgynghoriaeth rheoli, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.

Pam Rheoli Busnes (Marchnata) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Wedi’i achredu gan gyrff cenedlaethol cydnabyddedig megis y corff marchnata proffesiynol arweiniol, y Sefydliad Marchnata Siartredig CIM
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Marchnata yn Prifysgol Abertawe Ymhlith y 50 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025).

Eich Profiad Rheoli Busnes (Marchnata)

Mae'r cwrs Rheoli Busnes (Marchnata) ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi chwilio am waith.

Mae ein detholiad eang o fodiwlau dewisol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at eich nodau gyrfa penodol.

Mae'n cwmpasu sylfaen busnes a rheoli, a hefyd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae cwsmeriaid a busnesau'n rhyngweithio mewn marchnad fyd-eang, gan eich galluogi i astudio pynciau arbenigol fel ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu ar gyfer marchnata, ymchwil marchnata, metrigau marchnata a marchnata byd-eang.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes marchnata mewn sefydliad, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Marchnata)

Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Abertawe gan arbenigo mewn marchnata, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw fusnes.

P'un ai Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw ddarpar gyflogwr. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Cyfarwyddwr Marchnata
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Datblygu Busnes

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Rheoli Busnes (Marchnata)

Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn Dramor

Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

OSZAR »