Newyddiaduraeth Ryngwladol, MA

Gallwch wella eich sgiliau newyddiaduriaeth a chyfathrebu proffesiynol

Delwedd o fyfyrwyr yn ffilmio cyfweliad

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol yn darparu dull dynamig a chadarn o addysgu newyddiaduraeth gyfoes drwy lens globaleiddio a digideiddio.

Mae ein dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawsddiwylliannol yn manteisio ar arbenigedd ym maes astudiaethau'r cyfryngau a chyfathrebu.

Byddwch yn mireinio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o newyddiaduraeth yn yr 21ain ganrif drwy sgiliau ymarferol a thechnegau cynhyrchu newyddiaduraeth, gan archwilio arferion penodol o safbwyntiau damcaniaethol a dadansoddol.

Mae graddedigion o'r cwrs hwn yn datblygu i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus a boddhaol mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau, cyfathrebu a PR, darlledu a chyhoeddi.

Pam Newyddiaduraeth Ryngwladol yn Abertawe?

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da am addysgu newyddiaduraeth.

Wedi ein lleoli ar gampws bywiog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gennym yr arbenigedd a'r holl gyfleusterau modern sydd eu hangen i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch mor gyfredol â phosibl.

Wedi’i dylunio i hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, mae'r Ganolfan i Raddedigion yn darparu amgylchedd cefnogol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig ac astudio cwrs meistr a addysgir.

Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Newyddiaduraeth Ryngwladol

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd neu brosiect newyddiaduraeth unigol yn ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau'n cynnwys y cyfryngau byd-eang, newyddiaduraeth gymharol, y chwyldro digidol, gohebiaeth risg ac ysgrifennu proffesiynol a hyrwyddol.

Chi fydd yn dewis pwnc eich traethawd hir gyda thiwtor. Mae'r traethawd hir yn eich galluogi i ysgrifennu traethawd hir 20,000 o eiriau neu gyflawni prosiect newyddiaduraeth unigol yn seiliedig ar faterion a themâu a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Newyddiaduraeth Ryngwladol

Yn ogystal â gwella eich sgiliau ysgrifennu yn sylweddol, byddwch yn meithrin gallu ym maes ymchwil a siarad, wrth i chi fagu hyder yn cyflwyno eich syniadau mewn ffyrdd gwahanol.

Mae graddedigion o'r cwrs hwn yn datblygu i ddilyn gyrfaoedd boddhaol mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, darlledu a chyhoeddi.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd neu brosiect newyddiaduraeth unigol yn ail hanner y cwrs. Mae'r modiwlau yn cwmpasu pynciau fel newyddiaduraeth gymharol, y cyfryngau byd-eang a'r chwyldro digidol.

OSZAR »