Rheoli (Dadansoddeg Fusnes), MSc

Ennill dealltwriaeth o sut y defnyddir data yn y byd corfforaethol

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym myd dynameg busnes sy'n cael ei lywio gan ddata? Mae sefydliadau mawr yn defnyddio data a dadansoddeg i lywio eu penderfyniadau strategol a gweithredol. Mae galw mawr am ddadansoddwyr medrus iawn ym mhob math o sectorau, o gyllid, addysg, fferylliaeth a llywodraeth ac mae cyfleoedd i weithio ledled y byd.

Bydd y radd MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i chi feithrin dealltwriaeth drylwyr o sut mae data’n cael ei ddefnyddio yn y byd corfforaethol, o'r data y tu ôl i'r rhyngrwyd i reoli logisteg gyflenwi'n fyd-eang. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer gyrfa yn oes ‘data mawr’. 

Mae'r rhaglen yn ymdrin â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Pam Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Dadansoddeg Fusnes)

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Dadansoddeg Fusnes)

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheoli, gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Dadansoddwr Gwybodaeth Fusnes
  • Gwyddonydd Data
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Dyma rai o'r modiwlau nodweddiadol: Rheoli Adnoddau Dynol, Strategaeth, a Mwyngloddio Data.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid

OSZAR »