Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi), MSc

Dysgwch sut i reoli gweithrediadau byd-eang a rhwydweithiau cyflenwi

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

A oes gennych ymwybyddiaeth fasnachol gref a diddordeb mewn rheoli cyflenwi ym marchnadoedd byd-eang a hynod gystadleuol yr oes sydd ohoni?

Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb amlwg mewn deall sut y caiff cynhyrchion a gwasanaethau eu creu a'u dosbarthu, a dysgu sut y gellir gwella'r broses hon ar gyfer cwmnïau'r 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs gradd yn benodol â ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig.

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau sy'n ymwneud â rheoli cadwyni cyflenwi byd-eang a rheoli prosiectau. Mae hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.

Pam Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)

O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa.

Bydd ein tîm gyrfaoedd penodol yn rhoi'r holl gyngor ar yrfaoedd sydd ei angen arnoch, a hwnnw'n gyngor un i un wedi'i deilwra ar eich cyfer. Gallwch gwblhau lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)

Mae gennym hanes ardderchog o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi), gyda'i harchrediad CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.  

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Ymgynghorydd Gweithrediadau a Chyflenwi
  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Mae'r modiwlau fel arfer yn cynnwys: Rheoli Adnoddau Dynol, Strategaeth, a Rheoli Cadwyni Cyflenwi Byd-eang.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid

OSZAR »