Cymraeg, MA drwy Ymchwil

Ymchwiliwch i'ch diddordebau personol a'r hyn sy'n tanio'ch brwdfrydedd

girl smiling

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Cymraeg yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol yn seiliedig ar eich hoffterau a'ch diddordebau Cymreig personol.

Mae'n cynnig cymhwyster MA uchel ei barch mewn meysydd arbenigol lle na chynigir rhaglenni wedi'u haddysgu, ac yn cynnig profiad o radd ymchwil sylweddol i chi, heb ymrwymo i PhD.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Gall cwblhau'r rhaglen eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, cyrff llywodraethol neu'r sector preifat.

Mae arbenigeddau ymchwil Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys y canlynol:

  • Dwyieithrwydd a chynllunio iaith Damcaniaeth llenyddiaeth
  • Technegau a thechnoleg cyfieithu
  • Llenyddiaeth dros y canrifoedd
  • Datganoli
  • Cymraeg i oedolion a chaffael iaith
  • Hanes cyfreithiol a chymdeithasol
  • Y gyfraith ac ieithoedd lleiafrifol
  • Drama, ffilm, animeiddio, darlledu a'r cyfryngau digidol

Mae'r rhan fwyaf o brosiectau yn esblygu'n raddol drwy waith darllen, gwaith ymchwil a goruchwyliaeth.

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol y prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunnir arnynt wedi hynny.

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddwch yn gwneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, yn symposiwm blynyddol yr adran i ôl-raddedigion ym mis Mehefin, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.

OSZAR »