Trosolwg
Mae Dr Sean Walton yn Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, Yn Gymrawd Sêr Cymru II, ac yn Gyfarwyddwr Sefydlu Pill Bug Interactive (https://www.pillbug.zone/), stiwdio datblygu gemau a enwebwyd gan BAFTA Cymru. Cefndir ymchwil Sean yw defnyddio technegau optimeiddio esblygol mewn peirianneg yn bennaf. Ers ymuno â'r Ffowndri Gyfrifiannol yn Abertawe mae wedi ehangu ei ddiddordebau ymchwil i dechnoleg addysgol a'r weithdrefn o gynhyrchu cynnwys gemau fideo.