MAE GENNYM FWY NA 50 O GLYBIAU CHWARAEON I CHI DDEWIS OHONYNT

Gyda mwy na 50 o glybiau chwaraeon i ddewis ohonynt a mwy na 5,000 o aelodau gweithgar mewn clybiau chwaraeon, rydym ni ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

P'un a ydych am roi cynnig ar rygbi neu aikido, dodgeball, hoci neu tae kwon do, byddwch chi'n siŵr o ganfod eich tîm delfrydol yn Abertawe. P'un a ydych ar lefel dechreuwr, canolraddol neu elît, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd clybiau chwaraeon i bawb.

Gyda sesiynau hyfforddi rheolaidd, cynghreiriau lleol, cystadlaethau cenedlaethol ac, wrth gwrs, ambell noson gymdeithasol, mae bywyd yn aelod o glwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe byth yn ddiflas.

Ac er ein bod yn hoff o gael hwyl, rydyn ni hefyd yn uchelgeisiol. Rydyn ni'n anelu at fod ar frig tabl goreuon BUCS, felly dewch i ymuno â'n tîm a bod yn rhan o'r daith.

DIDDORDEB MEWN YMUNO?

Mae popeth y mae angen i chi ei wybod ynghylch ymuno ag un o'n llu o glybiau, gan gynnwys gwybodaeth am ffi aelodaeth a'r rhestr lawn o'r hyn sydd ar gael, i'w weld ar Wefan Undeb y Myfyrwyr.

Cliciwch ar y botwm ar y chwith nawr.

Gwisgo'r Cit

P’un a ydych yn fyfyriwr athletwr, yn gefnogwr Chwaraeon Prifysgol Abertawe, neu os ydych yn chwilio am wisg hamdden o ansawdd uchel, gallwch brynu’r kit swyddogol o siop Surridge Sport drwy gydol y flwyddyn a gwisgo’r kit gwyrdd a gwyn gyda balchder.

O sanau a hetiau, i gotiau cynnes a chnuoedd, mae digonedd i bawb.

Clicia yma i gael dy git

Nwyddau Chwaraeon Prifysgol Abertawe

Cit

Cwestiynau Cyffredin am Glybiau Chwaraeon

OSZAR »