Dyn yn defnyddio sgriwdreifer i atgyweirio peiriant

Pan ddechreuodd ansicrwydd ynghylch dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gynyddu, i Jason Bailey dyna'r sbardun roedd ei angen arno i wneud newid mawr yn ei yrfa.

Dewisodd y cyn weithredwr dderbyn y pecyn dileu swydd a defnyddio'r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei amser yn y gweithfeydd at ddiben arall - astudio am BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae peirianneg feddygol yn rôl ymarferol sy'n cynnwys profi a chynnal a chadw'r dyfeisiau hanfodol a ddefnyddir ym mhob math o driniaeth cleifion, o anaesthesia mewn theatrau llawdriniaethau i gynnal bywyd mewn unedau gofal critigol.

Meddai Jason, sy'n 42 oed: "Rydyn ni'n gyfrifol am waith cynnal a chadw ataliol yr holl gyfarpar meddygol a'u gwirio'n rheolaidd. Ni yw'r rhan gudd o fywyd ysbyty, sy'n sicrhau bod popeth yn gweithio'n ddidrafferth ac yn ddiogel."

Bellach yn ei flwyddyn gyntaf, yn ôl Jason, roedd y cwrs yn bendant yn bodloni ei ddisgwyliadau.

"Roedd gen i bob amser ddiddordeb mewn peirianneg - tynnais i injan car yn ddarnau am y tro cyntaf, gyda fy nhad, pan oeddwn i'n 10 oed - ac mae gen i HNC mewn peirianneg drydanol.

"Mae'r cwrs wedi bod yn berffaith gyda'i gyfuniad o ddysgu ymarferol a phrofiad ar leoliad gwaith. Dwi wedi gallu arddangos y sgiliau trosglwyddadwy roeddwn i wedi'u dysgu hyd yn hyn yn fy mywyd gweithio ac mae gen i gyfle i ddefnyddio fy menter." 

Esboniodd Pennaeth y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Athro Cysylltiol Dr Barry Bardsley fod rhaglenni’r gwyddorau gofal iechyd yn cael eu comisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i helpu i ddiwallu anghenion y gweithlu yng Nghymru.

Meddai: "Mae cefnogi ymgeiswyr sy'n symud i un o raglenni hyfforddi'r GIG yn rhan hanfodol o'n strategaeth i ddiwallu'r anghenion hyn. Rydyn ni'n croesawu ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith mewn gwyddoniaeth neu beirianneg, ac mae cyfleoedd rhan-amser ac amser llawn ar gael.

"Mae'n amlwg bod Jason yn defnyddio ei flynyddoedd o brofiad mewn lleoliad peirianneg i ddatblygu ei sgiliau a rhoi'r egwyddorion hyn ar waith wrth drin cyfarpar meddygol y GIG."

Ychwanegodd Andrew Morris, Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Peirianneg Feddygol, fod y tîm yn awyddus i recriwtio ymgeiswyr sydd wedi astudio cwrs peirianneg, ac mae staff yn Tata Steel yn bodloni'r meini prawf.

Meddai: "Rydyn ni wedi gweld Jason yn symud, yn gymharol ddidrafferth, i roi egwyddorion peirianneg roedd wedi'u defnyddio o'r blaen yn y gwaith dur ar waith yn yr amgylchedd gofal iechyd. Mae trin cyfarpar meddygol mewn ysbyty yn rôl bwysig i'r sefydliad cyfan ac mae lefelau diogelwch a risg yn gymaradwy rhwng Tata a'r GIG."

Meddai Jason: "Dyw llawer o weithwyr dur ddim yn sylweddoli bod eu sgiliau mor drosglwyddadwy. Yn y gwaith dur, rhaid i bobl ddangos gwybodaeth am iechyd a diogelwch a meddylfryd rhesymegol. Mewn gwaith dur, mae bywydau yn y fantol ac mae hynny yr un mor berthnasol mewn ysbyty lle gallai bywydau cleifion fod mewn perygl. Mae gweithwyr dur yn deall hynny."

Nid Jason yw'r aelod cyntaf o'i deulu i newid gyrfa ac ymrwymo i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, Mae ei bartner, Stephanie Holloway, hefyd yn cyfrannu at y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru erbyn hyn, gan weithio fel nyrs anesthetig yn Ysbyty Singleton ar ôl ennill gradd mewn nyrsio oedolion chwe blynedd yn ôl.

Roedd y pâr yn gweithio yn Tesco pan benderfynodd Steph ddod yn nyrs ac nid yw'r ddau ohonynt yn difaru dod yn fyfyrwyr aeddfed a chyfnewid y gweithle am astudio.

Ychwanegodd Jason, sy'n dad i dri o blant: "Mae bywyd wedi newid cymaint i'r ddau ohonon ni. Ar ôl i mi orffen fy nghwrs, dwi'n gobeithio bydda i'n gweithio yn yr un ysbyty â Steph. Dwi'n hoffi'r ffaith bod y rôl hon yn fy rhoi ar y tir canol - yn delio â staff, yn esbonio cyfarpar ac yn dysgu beth maen nhw eisiau i'r cyfarpar ei wneud. Mae arloesi'n allweddol i'r swydd a dyna pam mae'n berffaith i mi.

"Byddwn i'n annog gweithwyr dur eraill i sylweddoli y gallai eu sgiliau fod o wir gymorth iddyn nhw lwyddo mewn maes arall."

Mae holl weithwyr dur Tata yn cael cyngor ar yrfaoedd am ddim drwy LHH ar hyn o bryd, ynghyd â mynediad at arweiniad ac adnoddau i'w helpu i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. Gall gweithwyr dur gysylltu â Louise Moffat, Terry Cowburn neu Zoe Hodgkinson yng Nghanolfan Lleoli Allanol LHH ym Mhort Talbot. Ffoniwch 07384 116702 neu e-bostiwch [email protected]

Dysgwch ragor am gwrs Jason a sut i astudio naill ai'n amser llawn neu'n rhan-amser

 

Rhannu'r stori

OSZAR »